Adref > Siartiaeth > Yr achos > Y Rheithgor – prawf teg?

Y Rheithgor – prawf teg?

Pan ddaeth hi’n adeg i’r Rheithgor dyngu eu llwon galwyd dros 300 o enwau. Gwrthodwyd llawer gan y cyfreithwyr oedd yn amddiffyn Frost, a oedd yn pryderu’n fawr na fyddai’n cael prawf teg yn yr ardal. Roedd yn broses hirfaith. Dim ond un o’r rhai a wrthodwyd oedd Thomas Swift, perchennog cychod ac adeiladwr badau o Drefynwy. Teimlai papurau newydd y Siartwyr ‘bod caniatáu i’r carcharorion gael eu rhoi ar brawf gan reithgor dosbarth canol o Sir Fynwy gyfystyr â gadael iddynt gael eu llofruddio’. Ceisiodd llysfab Frost, William Foster Leach, yn aflwyddiannus i gael symud yr achos allan o’r sir. Gwyddai y byddai llawer o aelodau’r rheithgor wedi darllen adroddiadau yn y wasg yn datgan bod y Siartwyr yn euog o deyrnfradwriaeth. Roedd rhai o’r adroddiadau oedd wedi ymddangos yn y Monmouthshire Beacon ym mis Tachwedd 1839 yn wyllt dros ben:

‘Cafwyd gwybod mai ffoadur o’r 29ain Catrawd, a gyflogwyd gan Mr. Frost gyda’r bwriad o lofruddio Mr. Phillips, oedd y dyn a ddringodd drwy’r ffenestr i’r ystafell lle’r oedd y Maer, a’i glwyfo gyda’i bicell. Byddai’n gynamserol, wrth gwrs, i ddatgan hyn fel ffaith ddiymwad, ond rydym yn son amdano fel un o’r sïon sydd ar hyd ac ar led.’

Roedd William Foster Leach wedi bod yn dwrnai ym Mhont-y-pŵl ond, fel ei lystad, roedd wedi pechu Thomas Prothero a Thomas Phillips ac wedi symud i Fryste. Yn ddi-dâl ac ar ei liwt ei hun, paratôdd amddiffyniad Frost, gwaith a roddodd fodd i amddiffyniaeth Frost i herio aelodau’r rheithgor a’r tystion yn yr achos.

Roedd y deuddeg aelod o’r rheithgor a ddewiswyd yn y pen draw i gyd yn dod o gefn gwlad Sir Fynwy, a gan eu bod yn berchen eiddo roedd ganddynt bleidlais yn barod.  James Hollings, haearnwerthwr, oedd yr unig aelod o’r Rheithgor oedd yn byw yn Nhrefynwy.

Wyddon ni ddim a gafodd yr awdurdodau hi'n anodd i apwyntio digon o ddynion cefnogol Saesneg eu hiaith i'r rheithgor. Rhaid bod mater yr iaith wedi ychwanegi at y tensiwn yn y llys, gan y gofynwyd i lawer o'r diffinyddion bledio am eu bywydau mewn iaith nad oedd yn famiaith iddynt. Ymbiliodd un ffermwr Cymraeg i gael rhoi ei dystiolaeth yn Gymraeg yn yr achos. Roedd yn amlwg yn ategu at deimladau The language issue must have added to the tension in the o anhegwch a gorthrwm trefedigaethol gan y Saeson!

Y Rheithgor

  • John Daniel, dilledydd o’r Fenni
  • Edward Reese, melinydd o Lanfarthin
  • Thomas Davies, cigydd o’r Fenni
  • Edward Smith, saer cerbydau o Gas-gwent
  • Richard Lewis, ffermwr o Lanfair Isgoed
  • Christopher John, ffermwr o Redwick
  • Edward Bristle, ffermwr o Lanfihangel Troddi
  • William Williams, ffermwr o Langatwg
  • James Hollings, haearnwerthwr o Drefynwy
  • John Richards, pobydd  o Gas-gwent
  • Thomas Jones, ffermwr o Drefonnen
  • John Capel Smith, cigydd o Gas-gwent

logo

 

 

Testun a gwaith celf allan o gyhoeddiad Voices for the Vote: Shire Hall and the story of Chartism in south Wales. Atgynhyrchwyd drwy garedigrwydd Cyngor Sir Fynwy / Neuadd y Sir Trefynwy. Gellir prynu’r llyfr am £4.99 o Neuadd y Sir Trefynwy, Amgueddfa Casnewydd neu Archifdy Gwent.