Adref > Siartiaeth > After the Trial > Carchar Trefynwy: Bywyd dan glo

Carchar Trefynwy: Bywyd dan glo

 

 ‘Dymuna'r dyledwyr a'r carcharorion eraill yng Ngharchar y Sir gyflwyno eu diolch pennafiJoseph Price ysw am eu hanrheg Nadolig o bwys o gig eidion, chwart o gwrw, a chwarter torth i bob carcharor sydd yn y carchar ar hyn o bryd. Mae Mr Price wedi bod yn gymwynaswr i garcharorion ers hir amser.’

Roedd llawer o'r Siartwyr wedi treulio Nadolig 1839 yng Ngharchar Trefynwy, ond roedd adroddiad y Merlin ar Nadolig yn y celloedd yn rhoi camargraff o'r ffordd y cawsant eu trin. 


Roedd Zephaniah Williams, yn arbennig yn ddim ond cysgod o'i gymharu a'r dyn y bu'r awdurdodau'n chwilio amdano - '5 troedfedd 8 modfedd, o gorffolaeth gref, lydan, siaradwr powld, di-flewyn-ar-dafod a swae yn ei
gerddediad'. Roedd yn cael ei gadwyno wrth swyddog carchar bob nos, yn dioddef rhag diffyg cwsg a diffyg maeth, ac yn meddwl am ladd ei hun. Tatws, bara a llymru oedd y bwyd sal a roddid i'r carcharorion ac roedd yn achosi cryn ddiffyg traul i lawer. Yn ol Frost, ei gyfnod yng Ngharchar Trefynwy oedd 'y trallod gwaethafi mi ddioddef erioed', er iddo gael gweld ei wraig a'i ferch ym mhresenoldeb y Llywodraethwr.

Wedi datgan y ddedfryd o farwolaeth, nid oedd golygydd y Merlin yn petruso i son am gynnig llawfeddyg lleol i fod yn ddienyddiwr, er bod y papur wedi cefnogi'r ddeiseb i'r Frenhines a drefnwyd gan drigolion Trefynwy, oedd yn galw am drugaredd. Roedd Frost, Williams a Jones yn rhannu'r un ystafell ym mhorthdy'r carchar. Gallent glywed y seiri yn codi'r grocbren ar y to fflat uwch eu pennau, lle'r oedd carcharorion yn cael eu dienyddio. Adroddodd y Beacon bod John Frost wedi gofyn am gopi o Blair's Grave pan ymwelodd y Parchedig Mr Gosling a'r carcharorion

logo

 

 

Testun a gwaith celf allan o gyhoeddiad Voices for the Vote: Shire Hall and the story of Chartism in south Wales. Atgynhyrchwyd drwy garedigrwydd Cyngor Sir Fynwy / Neuadd y Sir Trefynwy. Gellir prynu’r llyfr am £4.99 o Neuadd y Sir Trefynwy, Amgueddfa Casnewydd neu Archifdy Gwent.