Adref > Siartiaeth > Cyd-destun De Cymru > Yr actorion yn y ddrama…o blaid y Siartwyr:

Yr actorion yn y ddrama…o blaid y Siartwyr:

Siartwyr a’u gelynion yn y sefydliad

Chartists and their Establishment Enemies

Ym mhob stori dda mae yna arwyr a dihirod. Dewch i ni gael cyflwyno rhai o’r dynion a fu’n chwarae rhan flaenllaw – o blaid, ac yn erbyn y Siartwyr.

John Frost  rebel parchus (1784 - 1877)

Gwerthwr dillad dosbarth canol oedd Frost. Roedd ef a’i wraig Mary yn cadw eu siop eu hunain ar Stryd Fawr Casnewydd. Yn fuan wedi iddo ddatgan ei gefnogaeth i Siarter y Bobl ym mis Hydref 1838 daeth yn arweinydd Siartwyr Sir Fynwy. Bu’n  annerch dros achos y Siartwyr trwy’r wlad. Bu’n faer Casnewydd ym 1836 ac yn ynad hyd fis Mawrth 1839, pan gafodd ei wahardd o’r swydd oherwydd ei weithgareddau o blaid y Siartwyr.

Cafodd ei ddisgrifio gan olygydd y Monmouthshire Merlin fel hyn: ‘rhyw bum troedfedd a saith modfedd o ran ei daldra, braidd yn dew; nid yw ei bryd a’i wedd a’i ffordd o ymwneud yn awgrymu byrbwylledd na threisgarwch o ran ymddygiad na chymeriad. Golwg addfwyn, feddylgar sydd arno ac mae ei agwedd yn awgrymu ei fod yn ddyn mwy hawddgar a charedig na’r cyffredin. Yng ngoslef ei lais, hefyd, wrth ymgomio ag eraill ac wrth siarad yn gyhoeddus, mae rhyw elfen swynol a chymodlon’.

Henry Vincent  y perfformiwr (1813 - 1873)

Yn ŵr pump ar hugain oed, Henry Vincent oedd y mwyaf difyr o’r Siartwyr o bellfordd. Roedd yn siaradwr huawdl a chanddo lais canu da a’r ddawn i ddynwared pobl. Ymunodd â Chymdeithas Gweithwyr Llundain ym 1837 ac roedd yn un o arwyddwyr gwreiddiol y Siarter. Anfonwyd ef i Gymru gan Siartwyr Llundain yn ‘genhadwr cyflogedig’, i ledaenu’r gefnogaeth i Siarter y Bobl. Yn ystod gwanwyn 1839 bu’n annerch cyfarfodydd torfol ar draws Sir Fynwy.

Roedd Vincent hefyd yn cyhoeddi papur newydd Siartaidd, y Western Vindicator, ac ysgrifennai hanes difyr ei deithiau bob wythnos o dan y teitl Life and Rambles: ‘gadael Bryste am ddau o’r gloch yn y stemar i Gasnewydd, yn Ne Cymru. Roedd y daith yn un arw iawn. Sylwais ar ddau Chwig o Gasnewydd yn cyfogi yn ofnadwy. Am wn i fy mod i wedi rhoi bola tost iddynt a’u bod yn ceisio cael gwared arnaf.’

Zephaniah Williams  y siaradwr plaen, mentrus (1795 - 1874)

Roedd Williams yn siaradwr Cymraeg a daeth yn llefarydd dros y Siartwyr yng nghymoedd gorllewinol Sir Fynwy. Fe’i cyflogid gan gwmni Sirhowy fel asiant mwynau, swydd bwerus a dylanwadol. Ond wrth i fudiad y Siartwyr dyfu’n gyflym yn sir Fynwy gadawodd ei swydd yn gynnar ym 1839 i gadw tafarn y Royal Oak ym Mlaina gyda’i wraig Joan. Coleddai syniadau radicalaidd cryf; roedd o blaid gweriniaeth ac roedd yn anghrediniwr. Roedd wedi bod mewn trafferth gyda’r awdurdodau, a oedd yn ei ddisgrifio fel hyn: ‘5 troedfedd 8 modfedd, yn gryf ac yn sgwâr o ran ei gorff, siaradwr hyf sy’n swagro wrth gerdded, ac sydd â ffordd swta o siarad.’

William Jones  actor milwriaethus (1809 - 1873)

Jones oedd arweinydd egniol, milwriaethus y Siartwyr yn y Cwm Dwyreiniol mwy Seisnigaidd i’r gogledd i Bont-y-pŵl. Symudodd yno o Fryste ym 1833 a bu’n gweithio fel gwneuthurwr oriorau ac yn cadw siop gwrw Bristol House gyda’i wraig. Yma fe sefydlodd Gymdeithas Gweithwyr Pont-y-pŵl. Er ei fod yn hanu o dras Gymreig nid oedd yn siarad Cymraeg. Bu’n actor teithiol ac roedd yn berfformiwr poblogaidd mewn cyfarfodydd y Siartwyr ledled maes glo Sir Fynwy.

Dr. William Price  dipyn o dderyn (1800-1893)

Yn weriniaethwr gyda diddordeb mewn Derwyddiaeth baganaidd, dyma un o’r Siartwyr mwyaf lliwgar. Meddyg a gâi ei gyflogi i ofalu am y dynion yn y gweithfeydd ceblau ym Mhontypridd oedd Price. Sefydlodd gyfrinfa i’r Siartwyr yno. Roedd yn siaradwr Cymraeg poblogaidd ymhlith gweithwyr y maes glo, ac yn ddylanwadol iawn yng nghyfrinfeydd Siartwyr Aberdâr a Merthyr. Roedd ganddo nifer helaeth o ddilynwyr ac roedd llawer yn meddwl amdano ef, yn hytrach na John Frost, fel arweinydd y Siartwyr yn ne Cymru.

Supporting cast for the Chartists

Testun a gwaith celf allan o gyhoeddiad Voices for the Vote: Shire Hall and the story of Chartism in south Wales. Atgynhyrchwyd drwy garedigrwydd Cyngor Sir Fynwy / Neuadd y Sir Trefynwy. Gellir prynu’r llyfr am £4.99 o Neuadd y Sir Trefynwy, Amgueddfa Casnewydd neu Archifdy Gwent.