Adref > O Deithiau i Dreialon - Manylion > Beth yw Dogfennau Achos y Siartwyr?

Beth yw Dogfennau Achos y Siartwyr?

Darllenwch YR ADRODDIAD LLAWN, wedi ei ddarparu gan Archifau Gwent.

Mae’r holl ddogfennau yn gysylltiedig gyda’r achosion enwog o deyrnfradwriaeth a ddigwyddodd yn 1840. Maent yn dilyn gwrthryfel y Siartwyr ar y 3ydd a’r 4ydd o Dachwedd 1839 yng Nghasnewydd pryd lladdwyd dros ugain o Siartwyr. Roedd Siartaeth yn fudiad cenedlaethol oedd yn hynod o boblogaidd yn ne Cymru yn yr 1830au a’r 1840au. Roedd Siarter y Bobl yn cynnig system wleidyddol decach oedd yn rhoi’r bleidlais i fwy o bobl, a hefyd, roeddent yn gobeithio, yn cynnig cyfle i wella eu hamodau byw a gweithio. Fe wnaeth Siartaeth osod sylfeini ar gyfer system bleidleisio rydym yn dal i’w defnyddio heddiw. Trwy drawsgrifio’r dogfennau hyn, gallwch helpu i sicrhau bod lleisiau’r dynion, merched a’r plant gafodd eu dal yn y digwyddiadau pwysig hyn yn cael eu clywed unwaith eto.

Cofnodion Llyfrgell Casnewydd:

Mae’r cyfrolau hyn yn cynnwys y gwrandawiadau cychwynol ar gyfer Achosion ‘Comisiwn Arbennig’ y Siaratwyr . Cawsant eu paratoi o’r 5ed o Dachwedd 1839, ac maent yn casglu ynghyd dystiolaeth ar gyfer yr erlyniad ar gyfer yr achos a gychwynodd ar 31ain o Ragfyr 1839 yn Neuadd y Sir, Mynwy. Trosglwyddwyd y cofnodion i Amgueddfa Casnewydd yn 1915. Mae rhai llawysgrifau hwyrach hefyd wedi eu hychwanegu i’r archif yn nes ymlaen. Tua 1939 (er mwyn nodi canmlwyddiant y gwrthryfel) paratowyd catalog printiedig sydd hefyd yn rhan o’r archif hon. Yn ddiweddarach, cawsant eu rhwymo i’r 25 cyfrol rydych yn eu gweld yma ac yna eu trosglwyddo i Lyfrgell Casnewydd lle maent yn parhau hyd heddiw.

Cofnodion Archifau Gwent::

Mae’r cofnodion hyn, sy’n parhau i gael eu cadw yn Archifau Gwent, yn gysylltiedig gyda’r llysoedd Sesiwn Chwarter a gynhaliwyd ym Mrynbuga yn ddiweddarach yn 1840. Cafodd y rhain eu cynnal gan ynadon lleol ac yn aml byddent yn cynnwys tystiolaeth a gasglwyd wedi i’r achos comisiwn arbennig ddod i ben ym mis Ionawr 1840.

Mae’r casgliad o ddogfennau y cyfeirir atynt yn awr fel papurau ‘Achosion y Siartwyr’  yn cynnwys y cofnodion sy’n cael eu dal yn Llyfrgell Casnewydd.  Cynhyrchwyd y cofnodion hyn yn ystod gwrandwiadau cychwynnol yr ynadon a gynhaliwyd yn y Westgate Hotel, Casnewydd, sef union leoliad Gwrthryfel y Siartwyr. Bu i’r gwrandawiadau hyn, a gynhaliwyd fel paratoad ar gyfer achosion y Siartwyr ym Mynwy ym mis Ionawr 1840, ddechrau ar 5 Tachwedd, ac fe’u cynhaliwyd fwy neu lai yn barhaus tan ddydd Sadwrn 30ain o Dachwedd 1839.

Beth sy’n gwneud y papurau hyn mor ddiddorol yw mai’r rheswm gwreiddiol dros y dystiolaeth a gasglwyd gan dros 200 o lygad-dystion oedd dwyn achos yn erbyn 100 o Siartwyr. Ystyriai’r awdurdodau hyn yn nifer anodd i’w drin, fodd bynnag, a dim ond 20 o bobl yn unig gafodd eu herlyn ym Mynwy ym mis Rhagfyr a Ionawr 1840. Golyga hyn na chafodd llawer o’r deunydd ei ddefnyddio ac ni ddaeth i lygad y cyhoedd drwy’r cofnodion llys.

Cafodd y papurau hyn eu colli i bob pwrpas wedi’r achosion o deyrnfradwriaeth a’r achosion eraill a ddilynodd. Cawsant eu hailddarganfod, ar hap mae’n debyg, gan Mr Thomas Cartwright, perchennog pwll glo ym Mynwy, yn ystod ‘newidiadau busnes i aildrefnu cynnwys ei swyddfa’ ym 1915. Credir mai yn Mill Parade, Pillgwenlly oedd y swyddfeydd yma a’u bod wedi cael eu defnyddio fel Barics i filwyr oedd wedi eu lleoli yng Nghasnewydd wedi Gwrthryfel y Sirartwyr. Ym mis Medi 1915 cafodd y dogfennau eu cyflwyno i Amgueddfa Casnewydd.

Mae’r dogfennau hyn wedi cael eu hastudio gan haneswyr ers iddynt ailymddangos yn y parth cyhoeddus, ond mae eu digideiddio a’u trawsgrifio yn golygu eu bod ar gael eu bawb. Maent yn rhan o stori’r mudiad Prydeinig pwysig hwn sydd wedi ffurfio ein democratiaeth.